P-04-436 : Gwariant a Refeniw Llywodraeth Cymru
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i baratoi adroddiad ar Wariant a Refeniw Llywodraeth Cymru.
Mae gan yr Alban adroddiad Government Expenditure and Revenue Scotland. Ei nod yw gwella dealltwriaeth y cyhoedd o faterion ariannol drwy ddadansoddi ystadegau ariannol swyddogol Llywodraeth y DU a’r Alban yn fanwl. Mae’n bryd i Lywodraeth Cymru gyhoeddi adroddiad tebyg fel y gallwn weld gwir sefyllfa ariannol Cymru.
Prif ddeisebydd: Stuart Evans
Nifer y llofnodion: 27